Rhoi cyngor
Mae deall ac ystyried manteision ac anfanteision yr holl systemau dŵr poeth sydd ar gael yn rhan hanfodol o waith pob plymiwr cymwys. Mae gan bob math o system, boed yn system uniongyrchol neu anuniongyrchol, wedi’i hawyru neu heb ei hawyru, storfa neu ar-alw, nodweddion unigryw sy’n eu gwneud yn fwy neu’n llai addas yn dibynnu ar anghenion penodol y defnyddiwr a’r math o adeilad.
Er mwyn gallu cynnig cyngor gwybodus a phroffesiynol i gwsmeriaid, rhaid gallu gwerthuso’r system fwyaf effeithlon ac addas yn unol â’r gofynion penodol, boed hynny’n seiliedig ar ofynion y defnydd dyddiol, y pwysau dŵr sydd ar gael, argaeledd lle, neu’r tanwydd sydd yn cael ei ddefnyddio. Mae hefyd yn bwysig deall sut mae’r gwahanol systemau’n cyd-fynd â rheoliadau cyfredol megis Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitio Dŵr) a’r Rheoliadau Adeiladu.
Trwy gymharu a chyferbynnu’r systemau hyn yn fanwl, gellir sicrhau bod unrhyw system sy’n cael ei gosod nid yn unig yn bodloni gofynion y cwsmer, ond hefyd yn weithredol, yn ddiogel ac yn effeithlon dros gyfnod estynedig.