Stôr Thermol

Manteision Anfanteision
Cyflenwad dŵr poeth ar gais – mae’r system yn cynhesu dŵr ar unwaith wrth i’r dŵr oer o’r prif gyflenwad lifo trwy’r cyfnewidyddion gwres. Cymhlethdod – mae’r dyluniad yn fwy cymhleth na systemau eraill, felly mae’r gosodiad yn gofyn am fwy o arbenigedd. 
Cyfuniad o wahanol ffynonellau tanwydd – gall storfa thermol ddefnyddio ffynonellau gwres amrywiol megis nwy, olew neu ynni adnewyddadwy (fel paneli solar).  Cost uwch – gall y gost gychwynnol o brynu a gosod y system fod yn uwch na systemau confensiynol.
Dim angen seston dŵr oer – nid oes angen storio dŵr oer mewn seston gan fod y dŵr poeth yn cael ei gynhyrchu’n uniongyrchol.  Angen mwy o le – mae angen digon o le ar gyfer y storfa ei hun sy’n cynnwys y dŵr cynnes sylfaenol.
Gwasgedd prif gyflenwad – gan fod y system yn defnyddio dŵr o’r prif gyflenwad, mae’r gwasgedd yn dda ar gyfer sawl allfa. Yn llai cyffredin – gan nad yw’r system hon mor gyffredin â systemau eraill, efallai na fydd pob plymiwr yn gyfarwydd â’i chynnal a’i chadw.