Boeleri cyfun (Combi boilers) 

Mae boeler cyfun yn cynnig dŵr poeth a gwres canolog heb angen silindr storio nac unrhyw fath o seston bwydo. Mae’n gweithredu drwy gynhesu dŵr ar alw’n uniongyrchol o’r cyflenwad prif ddŵr, gan ei wneud yn system seliedig sy’n gweithredu dan wasgedd.

Manteision Anfanteision
Mae’r system yn arbed lle gan nad oes angen storfa. Efallai na fydd yn ddigonol i gwrdd ag anghenion dŵr poeth mewn cartrefi gyda mwy nag un ystafell ymolchi.  
Yn berffaith ar gyfer fflatiau neu dai bach, ac yn economaidd gan nad oes colledion gwres wrth storio dŵr.  Gall y gwasgedd dŵr poeth ostwng os defnyddir mwy nag un allfa ar yr un pryd.