Cyflwyniad 1
Mae systemau gwres canolog bellach yn nodwedd safonol ym mhob tŷ yng Nghymru bron iawn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio boeleri a rheiddiaduron i ddosbarthu’r gwres. Mae’r systemau hyn wedi esblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys atebion mwy effeithlon sy’n defnyddio llai o ynni, yn arbed arian i’r defnyddiwr, ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Yn yr uned hon, bydd sylw yn cael ei roi i systemau gwres canolog o safbwynt domestig ac, i raddau, masnachol. Bydd y cynnwys yn trafod ystod eang o systemau – o rai sy’n defnyddio disgyrchiant naturiol i systemau wedi’u pwmpio’n llawn, gan gynnwys boeleri cyfun, falfiau rheoli, pympiau cylchredeg a llawer mwy.