Cyflwyniad 2
Drwy astudio’r uned hon, bydd modd datblygu gwybodaeth gadarn am gynllunio a gosod systemau, fel cynllun S, S+, Y ac W, gan edrych ar gynlluniau un bibell, dwy bibell, a maniffold meicro neu mini. Bydd hefyd cyfleoedd i archwilio cydrannau fel rheiddiaduron, boeleri, falfiau thermostatig, falfiau draenio a mwy, yn ogystal â’u manteision a’u cyfyngiadau yn ôl yr amgylchedd gosod.
Bydd pwyslais ar waith ymarferol a damcaniaethol fel ei gilydd, gan gynnwys:
- sut i lenwi ac awyru systemau
- sut i sicrhau bod pob cydran wedi’i leoli a’i gysylltu’n gywir
- sut i gynnal archwiliadau gweledol a phrofion cadernid
- sut i gydymffurfio â gofynion inswleiddio a mesurau diogelwch rhag rhew.