Cynllun C (C Plan) 

Mae Cynllun C yn defnyddio dull lled–ddisgyrchol ar gyfer y silindr dŵr poeth, gyda’r dŵr yn cylchredeg trwy ddisgyrchiant, tra bo’r rheiddiaduron yn gweithio ar gylchrediad pwmpiedig. 

Manteision Anfanteision
Addas ar gyfer eiddo hŷn lle mae silindrau disgyrchiant eisoes wedi’u gosod. Diffyg effeithlonrwydd.
Gall weithio’n ddibynadwy gyda’r isafswm o newid i’r system bresennol. Nid yw’n cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu Rhan L oherwydd y defnydd aneffeithlon o ynni a diffyg rheolaeth.