Cynllun S+ (S Plan Plus)

Mae Cynllun S+ yn estyniad o Gynllun S. Mae’n cynnwys tair falf dau borth neu fwy i wasanaethu sawl parth gwresogi a systemau dŵr poeth. Mae’n cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn tai mwy neu adeiladau sydd ag anghenion gwresogi penodol fesul parth (zones). Prif bwrpas y system yma yw i greu parthau gwahanol mewn tŷ.
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Caniatáu rheolaeth fanwl dros sawl ardal wresogi gyda’r potensial ar gyfer arbedion ynni sylweddol. | Yn ddrutach o ran cydrannau ac yn fwy cymhleth i’w osod a’i gynnal. |
| Yn arbennig o effeithlon pan gaiff ei gyfuno â synwyryddion tymheredd ac amseryddion modern. | Mae angen lefel uwch o wybodaeth dechnegol ar gyfer gosodiad cywir. |