Cynllun S (S Plan)

Mae Cynllun S yn defnyddio dwy falf dau borth ar wahân – un ar gyfer y dŵr poeth domestig a’r llall ar gyfer y gwres canolog. Mae pob falf yn gweithredu’n annibynnol, dan reolaeth uniongyrchol gan thermostat perthnasol. Mae’r cynllun hwn yn defnyddio cylchrediad wedi ei bwmpio’n llawn ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran rheoli a chynllunio’r system.
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Rheolaeth fanwl o’r parthau gwresogi. | Mae’r system yn fwy cymhleth i’w gosod ac yn fwy costus na Chynllun Y. |
| Mae’n hawdd ychwanegu mwy o barthau gan ddefnyddio falfiau ychwanegol. | Mae’r gwaith trydanol yn fwy cymhleth hefyd oherwydd angen rheoli pob falf yn annibynnol. |
| Mae‘n cynnig perfformiad gwresogi mwy effeithlon, yn arbennig mewn tai mwy. |