Cynllun W (W Plan) 

Mae Cynllun W yn hen ddull sy’n defnyddio falf ddargyfeirio (diverter valve) dwy safle i gyfeirio’r llif at y rheiddiaduron neu’r silindr, ond nid at y ddau ar yr un pryd.

Manteision Anfanteision
Dyluniad syml a llai o gydrannau. Nid yw’r system yn gallu darparu dŵr poeth a gwres canolog ar yr un pryd.
Yn rhatach ac yn haws i’w ddeall a’i osod mewn eiddo bach. Yn anaddas ar gyfer tai modern â galw uwch am ddŵr poeth a gwres.