Cynllun Y (Y Plan)

Mae Cynllun Y yn system boblogaidd sy’n defnyddio un falf tri phorth (three-port mid-position valve) i reoli llif y dŵr poeth rhwng y rheiddiaduron a’r silindr storio dŵr poeth. Mae’r falf yma yn galluogi tri modd gweithredu: darparu dŵr poeth yn unig, gwres canolog yn unig, neu’r ddau ar yr un pryd. Mae’n seiliedig ar system wedi’i bwmpio’n llawn, a chaiff ei reoli gan thermostat y silindr, thermostat yr ystafell a’r amserydd.
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Cynllun syml, cost isel o ran cydrannau a gosod, gan ddefnyddio llai o falfiau. | Mae diffyg hyblygrwydd wrth greu parthau lluosog, ac mae’r falf tri phorth yn fecanwaith cymharol gymhleth a all ddioddef methiannau’n gynt na dau falf dau borth. |
| Mae’n berffaith ar gyfer tai bach i ganolig ac mae’r system wedi’i seilio ar reolaeth ddibynadwy a sefydlog. |