Maen Prawf 1.1
Manteision ac anfanteision systemau gwres canolog
Mae systemau gwresogi canolog mewn tai domestig yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol rhwng un eiddo a’r llall. Serch hynny, mae egwyddor pob system yn gyffredin: dosbarthu gwres yn effeithlon drwy’r tŷ er mwyn sicrhau cysur thermol (thermal comfort). Mae hyn yn cyfeirio at y tymheredd mewnol delfrydol sy’n darparu lefel o gysur i’r preswylwyr. Wrth gwrs, gall hyn amrywio o berson i berson, ond mae’n hanfodol bod y system wresogi’n gallu darparu gwres cyson, dibynadwy ac effeithlon sy’n bodloni anghenion y defnyddwyr.
I argymell a gosod y system fwyaf addas ar gyfer eiddo penodol, rhaid i’r plymiwr feddu ar wybodaeth glir a manwl am gryfderau a chyfyngiadau’r gwahanol fathau o systemau gwresogi canolog. Fel arfer, mae systemau gwresogi ‘gwlyb’ (yn defnyddio dŵr yn y system), yn cael eu dosbarthu’n ddau gategori : systemau awyredig gwasgedd isel, a systemau seliedig sy’n gweithredu dan wasgedd. O fewn y ddau gategori, mae amrywiol is-fathau i’w cael, sy’n defnyddio dulliau cylchredeg gwahanol, naill ai drwy ddisgyrchiant naturiol neu drwy ddefnyddio pwmp cylchredeg.
Mae hefyd yn hanfodol deall sut mae’r nodweddion hyn yn dylanwadu ar effeithlonrwydd ynni, dibynadwyedd a chynnal a chadw, er mwyn sicrhau’r gosodiad gorau posibl ar gyfer y sefyllfa bresennol.