System un bibell (One pipe system) 

Mae system un-bibell yn un o’r dulliau gwresogi canolog hynaf a symlaf oedd yn cael eu defnyddiio yn aml yn y ganrif ddiwethaf. Yn y system hon, mae un bibell gylchredol yn rhedeg o’r boeler i’r holl reiddiaduron ac yn ôl i’r boeler. Mae’r un bibell yn cludo’r dŵr poeth o’r boeler ac yn cario’r dŵr sydd wedi’i oeri yn ôl, gan basio drwy bob rheiddiadur ar ei ffordd. Mae dŵr poeth yn mynd i mewn i’r rheiddiadur drwy un falf ac yn gadael drwy’r llall, gan ddychwelyd i’r un bibell. Mae hyn yn golygu bod y dŵr sydd wedi cynhesu’r rheiddiadur cyntaf eisoes yn rhannol wedi’i oeri cyn iddo gyrraedd yr ail, ac yn y blaen. 

Nid yw’r system hon bellach yn cael ei argymell ar gyfer gosodiadau newydd oherwydd ei diffyg effeithlonrwydd thermol a chyfyngiadau o ran rheolaeth tymheredd. Serch hynny, mae’n dal i gael ei ganfod mewn adeiladau hŷn nad ydynt wedi cael eu hailwampio’n llawn. 

 

Manteision Anfanteision
Mae’r system yn syml i’w gosod gyda llai o bibellau, ac felly’n gost-effeithiol mewn adeiladau lle nad yw addasiadau mawr yn bosibl. Mae’r rheiddiaduron sydd agosaf at y boeler yn derbyn y rhan fwyaf o’r gwres, tra bod y rhai ymhellach yn derbyn dŵr sydd wedi’i oeri’n rhannol, gan achosi diffyg dosbarthiad gwres unffurf. Mae hefyd yn anodd rheoli’r tymheredd yn annibynnol mewn gwahanol ystafelloedd.  
Mae’n cymryd llai o le ac yn llai ymledol (invasive) na system ddwy bibell.  Mae’n aneffeithlon o safbwynt ynni ac nid yw’n cydymffurfio â safonau modern gan gynnwys gofynion Rhan L y Rheoliadau Adeiladu.