Systemau gwasgedd isel (Open Vented Systems)
Mae systemau gwasgedd isel, neu systemau agored, yn defnyddio tanc bwydo ac ehangu wedi’i leoli yn y lofft i gynnal lefel y dŵr a chymryd lle’r dŵr wrth iddo ehangu. Mae’r system yn cael ei awyru trwy bibell fent, gan ganiatáu i aer a nwyon eraill ddianc.
| Manteision | Anfanteision |
|---|---|
| Diogelwch: Mewn achos o orboethi, gall y system ryddhau gormodedd o wasgedd trwy’r bibell fent, gan leihau’r risg o ddifrod. | Effaith ar effeithlonrwydd: Gall aer ac ocsigen fynd i mewn i’r system drwy’r tanc agored, gan achosi cyrydiad ac effeithio ar effeithlonrwydd y system. |
| Cost isel: Mae’r system yn symlach ac yn rhatach i’w gosod, yn enwedig mewn adeiladau hŷn. | Cynnal a chadw: Mae angen cynnal a chadw rheolaidd ar y tanc bwydo ac ehangu i sicrhau ei fod yn lân ac yn gweithredu’n iawn. |
| Cydnawsedd: Yn addas ar gyfer boeleri traddodiadol a systemau gyda rheiddiaduron hŷn. | Colli gwres: Gall y tanc agored golli gwres, gan leihau effeithlonrwydd cyffredinol y system. |