Systemau seliedig (Sealed systems) 

Mae systemau seliedig, neu systemau wedi’u selio, yn gweithredu heb danc/seston bwydo ac ehangu agored. Yn lle hynny, maent yn defnyddio llestr ehangu (expansion vessel) wedi’i selio i gymryd lle’r dŵr wrth iddo ehangu.

 

Manteision Anfanteision
Effaith ar effeithlonrwydd: Gan nad oes aer yn mynd i mewn i’r system, mae llai o gyrydiad ac mae’r system yn fwy effeithlon.  Cost uwch: Gall y costau gosod a chynnal a chadw fod yn uwch oherwydd y cydrannau ychwanegol. 
Effeithiolrwydd: Mae’r system yma’n fwy effeithiol, gyda gwres cyson ym mhob rheiddiadur pan fydd y system wedi ei gydbwyso.  Risg o wasgedd gormodol (over pressure): Os nad yw’r llestr ehangu yn gweithredu’n iawn, gall y system orboethi neu gallai fod dan ormod o wasgedd. 
Cynnal a chadw: Llai o angen am gynnal a chadw rheolaidd ar y tanc bwydo ac ehangu.  Angen arbenigedd: Efallai y bydd angen arbenigedd ychwanegol i osod a chynnal y system yn iawn oherwydd y cynnydd mewn nifer o gydrannau.