Cyflwyniad

Mae’r diwydiant plymio a gwresogi yn cynnwys ystod eang o dasgau – rhai’n syml iawn, eraill yn gymhleth ac yn fanwl. Mae’r gwaith yn gofyn am gyfuniad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth dechnegol gadarn er mwyn sicrhau bod systemau’n cael eu dylunio, eu gosod a’u cynnal yn effeithiol, yn effeithlon ac yn ddiogel. 

Mae gwyddoniaeth, yn enwedig ffiseg a chemeg yn chwarae rhan ganolog ym mhob agwedd ar y gwaith hwn. Boed hynny’n fesuriadau o lif neu wasgedd, dewis y deunyddiau cywir, neu ddarganfod faint o egni sydd ei angen i wresogi dŵr, mae gwybodaeth wyddonol yn allweddol i wneud penderfyniadau doeth a phroffesiynol.