Cyflwyniad

Mae dŵr oer yn rhan hanfodol o bob adeilad domestig, masnachol ac diwydiannol yng Nghymru. Fel plymwr, eich rôl yw sicrhau bod cyflenwad dŵr oer yn cael ei ddarparu’n ddiogel ac yn effeithlon i gyfleusterau dŵr o fewn eiddo, gan gydymffurfio â’r gofynion technegol a’r rheoliadau perthnasol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol bod gan eu cartref neu’u gweithle gyflenwad dibynadwy o ddŵr glân ac yfadwy, ond mae llawer o waith a chynllunio yn mynd i mewn i sicrhau bod hyn yn digwydd yn effeithiol. 

Yfadwy – Y cyfieithiad Saesneg am ‘yfadwy’ yw ‘Potable’ sy’n deillio o’r gair Lladin ‘Potabilis’ sy’n golygu ‘drinkable’ yn Saesneg, neu ‘yfadwy’.