Gwybodaeth

Yn yr uned hon, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol i ddeall sut mae dŵr yn cael ei drin a’i ddosbarthu o’r prif gyflenwad i adeiladau, sut i osod systemau dŵr oer yn ddiogel a phrofi eu cadernid, a sut i ddehongli a chydymffurfio â’r rheoliadau dŵr. Byddwch hefyd yn edrych ar y dulliau o ddefnyddio systemau dŵr oer, gan ystyried eu manteision a’u hanfanteision, yn ogystal â deall sut mae cydrannau fel pibellau, falfiau a chyfarpar cysylltiedig yn gweithio.