Pwyntiau dysgu

Ar ddiwedd yr uned hon, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r canlynol: 

  • Ffynonellau a mathau o gyflenwad dŵr oer i anheddau, gan gynnwys systemau prif gyflenwad a chyflenwad preifat. 
  • Categorïau hylif dŵr a’r defnydd o ddŵr a gyflenwir i anheddau.
  • Y broses trin a dosbarthu dŵr o’r gwaith trin i’r eiddo. 
  • Rheoliadau dŵr a’r gofynion ar gyfer atal gwastraff, gorddefnydd, camddefnyddio neu halogi dŵr. 
  • Gosod a phrofi systemau dŵr oer, gan gynnwys cysylltu cydrannau fel sestonau, toiledau a basnau ymolchi. 
  • Dulliau a thechnegau ar gyfer cysylltu a gosod pibellau o fewn ffabrig adeilad, gan gynnwys mesurau i atal rhewi a gorboethi. 
  • Profi a chadarnhau cadernid systemau dŵr oer, gan gynnwys dulliau profi gwasgedd a chamau cofnodi.