Cyflwyniad
Mae cyflenwad dŵr poeth yn hanfodol ym mhob cartref ac adeilad. Rydym yn dibynnu arno bob dydd ar gyfer nifer o sefyllfaoedd gwahanol megis hylendid personol mewn cawod neu fath neu ar gyfer golchi llestri a dillad. Mae’n hanfodol bod systemau dŵr poeth yn cael eu gosod au cynnal a chadw yn gywir er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n ei ddefnyddio.
Cofiwch: Gall dŵr poeth fod yn beryglus ac achosi niwed os nad yw’r tymheredd yn cael ei reoli!
Yn yr uned hon, byddwch yn archwilio’r systemau dŵr poeth mwyaf cyffredin a geir mewn anheddau domestig, adeiladau masnachol ac adeiladau diwydiannol gyda phwyslais ar systemau mewn sefyllfaoedd domestig. Bydd yr uned yn datblygu gwybodaeth fanwl o’r cydrannau, y dulliau gosod a’r gweithdrefnau profi sy’n gysylltiedig â’r systemau hyn.