Pwyntiau dysgu

Byddwch yn dysgu am y gwahaniaethau rhwng systemau uniongyrchol ac anuniongyrchol, wedi’u hawyru ac heb eu hawyru, a’r manteision ac anfanteision sy’n gysylltiedig â phob un. Byddwch hefyd yn archwilio’r mathau o silindrau storio, dyfeisiau, tapiau ac falfiau sy’n rhan o’r systemau hyn, a sut i’w cysylltu a’u gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon. 

Yn ogystal, bydd yr uned hon yn rhoi sylw i’r broses o osod, inswleiddio, llenwi a phrofi cadernid y systemau dŵr poeth, gan sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr 1999, y Safonau Prydeinig (megis BS EN 806 a BS 8558), a’r Rheoliadau Adeiladu.