Sgiliau hanfodol Byddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â gweithdrefnau gwirioneddol y diwydiant ac yn meithrin sgiliau ymarferol a damcaniaethol fydd yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn lleoliadau go iawn. Drwy’r uned hon, bydd dysgwyr yn gallu ateb cwestiynau megis:
-
- Pam fod gwahanol fathau o systemau dŵr poeth?
- Sut mae cysylltu silindr, bath, basn ymolchi neu doiled â chyflenwad dŵr poeth?
- Sut mae sicrhau bod system dŵr poeth yn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon?
- Beth yw’r gweithdrefnau profi sydd angen eu dilyn i sicrhau cadernid?
Bydd yr uned hon yn eich helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel plymwr proffesiynol, gan sicrhau bod y gwaith a wnewch yn ddiogel, yn effeithlon ac yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant.