Maen Prawf 3.6
Cyfrifo gwres, egni a phŵer
Mae angen deall sut mae gwres, egni a phŵer yn gysylltiedig i allu cynllunio ac asesu systemau dŵr poeth neu wresogi yn effeithiol. Yn syml, pan fyddwn yn cynhesu sylwedd fel dŵr, mae angen egni arno i gynyddu ei dymheredd. Po fwyaf o ddŵr sydd, neu po fwyaf mae angen cynhesu, y mwyaf o egni sy’n ofynnol. Un ffordd syml o gyfrifo faint o egni sydd ei angen i godi tymheredd sylwedd yw defnyddio’r fformiwla:
Egni (Q) = m × c × ΔT
Ble:
- Q yw’r egni mewn Joules (J)
- m yw màs y sylwedd (cilogram)
- c yw’r capasiti gwres penodol (kJ/kg°C)
- ΔT (Delta T) yw’r newid tymheredd (gradd Celsius)
Gan fod dŵr yn pwyso tua 1 cilogram am bob litr, os ydym yn cynhesu 50 litr o ddŵr o 10°C i 60°C, mae’r newid tymheredd (ΔT) yn 50°C. Mae’r capasiti gwres penodol ar gyfer dŵr fel arfer tua 4.186 kJ/kg°C.