Darfudiad 

Mae darfudiad yn digwydd mewn hylifau ac nwyon pan fydd gronynnau cynhesach yn codi ac aer neu hylif oer yn cymryd eu lle, gan greu cylchred o symudiad. Mae’r egni’n cael ei gario gyda’r symudiad hwn. Enghraifft glir o hyn yw rheiddiadur mewn ystafell: mae’r aer o’i gwmpas yn cynhesu, yn codi, ac mae aer oer yn llifo i lawr i’w ddisodli. Dyna pam mae rheiddiaduron weithiau’n cael eu galw’n ‘heat convectors’.