Dargludiad 

Mae dargludiad yn digwydd pan fydd gwres yn symud drwy solid, fel metel. Er enghraifft, mewn silindr dŵr domestig, mae’r coil metel yn cael ei gynhesu gan ffynhonnell egni, ac mae’r gwres yn cael ei drosglwyddo drwy’r metel i’r dŵr o’i gwmpas. Mae hyn yn galluogi’r system i gynhesu’r dŵr yn effeithiol.