Egni
Mae egni yn cael ei fesur mewn Joules (J). Mae un Joule yn fesuriad o faint o waith neu wres sy’n cael ei drosglwyddo. Po fwyaf o egni sydd, y mwyaf o wres all gael ei gynhyrchu. Yn ymarferol, mae system gwresogi yn trosglwyddo miloedd o Joules bob eiliad.
Mae gwres hefyd yn gysylltiedig â chapasiti gwres penodol, dyma’r swm o egni sydd ei angen i gynhesu 1 cilogram o ddeunydd (fel dŵr) 1°C. Mae hyn yn cael ei fesur mewn kJ/kg°C. Er enghraifft, i gynhesu 1kg o ddŵr o 20°C i 100°C, mae angen tua 336 kJ o egni, gan fod gan ddŵr gapasiti gwres penodol uchel. Dyna pam mae angen mwy o egni i gynhesu dŵr na deunyddiau eraill ac mae’n bwysig cyfrifo hyn wrth ddylunio systemau gwresogi effeithlon.
Pŵer
Pŵer yw’r gyfradd y mae egni’n cael ei ddefnyddio neu ei gynhyrchu. Caiff pŵer ei fesur mewn Watts (W). Un Watt yw un Joule yr eiliad. Felly, os yw boeler yn cynhyrchu 10,000W (10kW), mae’n cynhyrchu 10,000 Joule o wres bob eiliad.