Enghraifft: 

m = 50 kg 
c = 4.186 kJ/kg°C 
ΔT = 50°C 

Felly: 

Egni = 50 × 4.186 × 50 = 10,465 kJ

Gan fod 1 kJ = 1,000 J, mae hyn yn gyfwerth â 10,465,000 J. 

Os bydd y system yn cymryd 30 munud (1,800 eiliad) i wresogi’r dŵr: 

Pŵer = 10,465,000 ÷ 1,800 = 5,814 Watts (tua 5.8 kW) 

Felly, bydd angen boeler sy’n gallu cynhyrchu o leiaf 5.8 kW o bŵer i gyflawni’r dasg honno o fewn y cyfnod yma. 

Mae’r wybodaeth yma’n dangos sut mae dealltwriaeth o egni a phŵer yn helpu plymwyr i ddewis y cyfarpar cywir ar gyfer anghenion dŵr poeth a gwresogi adeilad.