Maen Prawf 3.3
Sut mae’r termau gwres cudd (latent heat) a gwres synhwyrol (sensible heat) yn berthnasol i hylifau a nwyon
Mae gwres y mae modd ei synhwyro yn wres sy’n achosi newid tymheredd mewn sylwedd. Er enghraifft, os bydd dŵr yn cael ei gynhesu o 20°C i 100°C, mae’r tymheredd yn cynyddu’n raddol ac mae modd mesur y newid hwn gyda thermomedr. Dyna yw gwres y mae modd ei ‘synhwyro’.
Gwres cudd, ar y llaw arall, yw’r gwres sy’n cael ei ddefnyddio i newid cyflwr sylwedd er enghraifft, pan fydd dŵr yn berwi ar 100°C ac yn troi’n stêm. Er nad yw’r tymheredd yn cynyddu wrth i’r newid cyflwr ddigwydd, mae angen llawer o egni i gyflawni’r broses. Nid yw’r newid hwn yn cael ei ddangos ar thermomedr dyna pam ei fod yn cael ei alw’n ‘gudd’.
Yn y diwydiant plymio a gwresogi, dyma enghraifft o wres synhwyrol a gwres cudd:
“Hylifau fel dŵr yn cael eu cynhesu i bwynt berwi (gwres synhwyrol), ac yna’n newid i stêm (gwres cudd).”
Mae deall y ddau fath o wres yn bwysig wrth ddylunio ac yn ystod gwaith ar systemau sy’n cynnwys anweddiad neu gyddwyso.
