Maen Prawf 3.1
Y berthynas rhwng graddfeydd tymheredd Celsius a Kelvin
Mae dau brif raddfa tymheredd yn cael eu defnyddio mewn gwyddoniaeth ac mewn agweddau o’r diwydiant plymio a gwresogi, sef gradd Celsius (°C) a gradd Kelvin (K).
Mae’r raddfa Kelvin yn cael ei defnyddio’n benodol mewn cyd-destunau gwyddonol gan ei bod yn mesur tymheredd absoliwt, sef y lefel isaf bosibl o egni thermol. Mae sero absoliwt yn digwydd pan nad yw moleciwlau’n symud o gwbl – sef y tymheredd isaf y gall unrhyw beth ei gyrraedd. Mae hyn yn cyfateb i 0 K, sydd yr un fath â –273.15°C.
Mae 0°C yn gyfwerth â 273.15 K. Felly, i drosi tymheredd o raddau Celsius i Kelvin, dim ond ychwanegu 273.15 sydd angen.
Enghraifft syml:
Os yw’r tymheredd yn 10°C, yna:
10 + 273.15 = 283.15 K
Mae’r gallu i drosi rhwng y ddwy raddfa yn ddefnyddiol pan fydd angen defnyddio unedau SI safonol mewn cyfrifiadau sy’n cynnwys egni neu bwysedd mewn systemau plymio a gwresogi.
