Maen Prawf 3.2
Yr egwyddorion sy’n gysylltiedig â newid cyflwr
Mae newid cyflwr yn digwydd pan fydd sylwedd yn symud o un cyflwr ffisegol (physical state) i un arall, er enghraifft, o solid i hylif, neu o hylif i nwy. Mae’r broses hon bob amser yn cynnwys chwanegu neu golli gwres, ond nid yw’r tymheredd yn newid tra bod y newid cyflwr yn digwydd.
Toddi: pan fydd solid, fel iâ, yn amsugno gwres ac yn newid i hylif (dŵr).
Rhewi: pan fydd hylif yn colli gwres ac yn newid i solid.
Berwi: pan fydd hylif yn amsugno digon o wres i droi’n nwy ar dymheredd sefydlog.
Anweddu: pan fydd hylif yn troi’n nwy yn raddol ar unrhyw dymheredd uwch na’r rhewbwynt, fel dŵr yn anweddu o arwyneb tanc.
Cyddwyso: pan fydd nwy yn colli gwres ac yn troi’n ôl yn hylif.
Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol iawn i waith plymio a gwresogi, yn enwedig wrth weithio gyda dŵr poeth, stêm, oeryddion a systemau gwresogi sy’n cynnwys newidiadau cyflwr.
Cyflyrau mater
