Archwiliad gweledol

Cyn unrhyw lenwi neu awyru, rhaid cynnal archwiliad gweledol manwl o’r system. Dylid sicrhau bod yr holl uniadau wedi’u cwblhau’n gywir, nad oes pen agored nac unrhyw gysylltiadau heb eu tynhau, a bod y system wedi’i glipio’n briodol yn unol â gofynion pellteroedd clipio’r diwydiant. Mae hefyd yn hanfodol bod unrhyw ddyfeisiau diogelwch, megis pibellau fentio neu falfiau tymheredd a gwasgedd (T&P), wedi’u gosod yn unol â’r cynllun a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.