Maen Prawf 3.3

Lleoli a gosod pibellau o fewn ffabrig yr adeilad

 

Mae gosod pibellau o fewn ffabrig yr adeilad yn gofyn am gynllunio manwl a dealltwriaeth glir o’r gofynion technegol a’r rheoliadau perthnasol, gan gynnwys Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, safonau BS EN 806 a BS 8558, Rhan A, G ac L o Reoliadau Adeiladu, yn ogystal â’r Canllaw Rheoliadau Dŵr (yn enwedig adran R4.2 a G7.1). Dylid hefyd ystyried cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer pob dyfais a chydran benodol.