Cyfradd llif 

Cyfradd llif yw faint o hylif sy’n symud drwy system dros gyfnod o amser: 

  • m³/s (metr ciwbig yr eiliad): Uned SI safonol sy’n cael ei defnyddio wrth gyfrifo llif ar raddfa fawr.
  • l/s (litr yr eiliad): Mesuriad mwy cyffredin mewn plymio domestig. Er enghraifft, gall tap domestig gyflwyno tua 0.2–0.3 l/s.
  • kg/s (cilogram yr eiliad): Mae’n cael ei ddefnyddio pan fo pwysau’r hylif yn bwysicach na’i gyfaint, fel mewn systemau lle mae dwysedd yn newid oherwydd tymheredd neu bwysedd.