Cyfradd llif 

Cyfradd llif yw’r mesur o faint o hylif sy’n symud drwy system dros amser penodol, ac mae’n cael ei fesur fel arfer mewn metrau ciwbig yr eiliad (m³/s) neu litrau’r funud (l/min). Mae hyn yn hollbwysig wrth gyfrifo maint y pibellau, y pwmpiau neu’r rheolyddion mewn systemau dŵr a gwresogi. 

Drwy ddeall tarddiad a chymhwysiad y rhain, gall plymwyr weithio’n fanwl gywir wrth osod, profi a chynnal systemau effeithlon ac effeithiol.