Maen Prawf 4.7

Egwyddorion seiffon

 

Egwyddor siffon yw rhyddhau dŵr o lestr uchel i lestr is gan ddefnyddio gwasgedd atmosfferig a nodweddion cydlynol y dŵr. Dangosir yr egwyddor sifon yn y diagram. Mae’r ddau ficer yn bodoli dan wasgedd atmosfferig, ond maent ar wahanol lefelau. Mae’r gwasgedd yn y bicer ‘B’ yn fwy gan ei fod yn is. Rhaid i’r allfa o’r tiwb yn ‘B’ fod yn is na’r mewnlif yn ‘A’ er mwyn i’r llif ddigwydd. Pan roddir sugnedd ar ddiwedd y tiwb yn ‘B’, bydd y dŵr yn llifo i fyny dros dop y bicer ‘A’, lle mae’r gwasgedd atmosfferig ychydig yn is. Yma, bydd disgyrchiant a natur gydlynol y dŵr yn gwagio cynnwys bicer ‘A’ i mewn i bicer ‘B’.