Ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflymder, llif a gwasgedd 

Deunydd y bibell 
Mae rhai deunyddiau, fel copr neu blastig, yn cynnig llai o wrthwynebiad na deunyddiau garw, gan gynorthwyo’r dŵr i lifo’n haws. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn systemau hŷn lle gall haenau neu rwd (rust) mewn pibellau leihau’r diamedr mewnol. 

Cyfyngiadau fel falfiau neu tapiau 
Mae unrhyw elfen sy’n cyfyngu ar y llwybr llif yn achosi colled gwasgedd. Po fwyaf yw’r cyfyngiad, er enghraifft, falf sy’n agor dim ond yn rhannol, mwyaf yw’r effaith ar y llif ac ar y cyflymder.