Ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflymder, llif a gwasgedd 

Maint y bibell 
Mae pibellau ehangach yn caniatáu mwy o ddŵr i lifo’n rhwydd, gan leihau’r gwrthiant a chynnal gwasgedd gwell dros bellteroedd hirach. Mewn systemau preswyl, defnyddir maint y bibell i reoli llif er mwyn sicrhau bod tapiau a chawodydd yn gweithio’n effeithlon. 

Hyd y bibell a’r nifer o gysylltiadau 
Po fwyaf yw’r pellter y mae’r dŵr yn teithio, a’r nifer o droadau, falfiau ac addasiadau, mwyaf yw’r colledion gwasgedd oherwydd ffrithiant a gwrthiant fewnol. Gall hyn leihau cyflymder a llif, yn enwedig os yw’r bibellau’n fach neu’n heneiddio. 

Gwasgedd mewnbwn 
Mae’r gwasgedd cychwynnol o’r prif gyflenwad yn dylanwadu’n uniongyrchol ar gyflymder y dŵr. Os yw’r gwasgedd yn rhy isel, gall y dŵr lifo’n araf neu ddim o gwbl, er bod y system wedi’i gosod yn gywir o ran maint pibellau.