Grym 
Grym yw dylanwad tynnu neu wthio ar wrthrych ac mae’n cael ei fesur mewn newtonau (N).

Un newton yw’r grym sydd ei angen i gyflymu un cilogram o fàs ar gyfradd o un metr yr eiliad bob eiliad (1 m/s²).

Felly, yn syml: 

1 N = 1 kg × 1 m/s² 

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bwysau a phwysedd, gan fod pwysau mewn gwirionedd yn ffurf ar rym oherwydd disgyrchiant.