Gwasgedd 

Gwasgedd yw’r grym sy’n cael ei weithredu ar hylif neu nwy mewn system. Mae’n cael ei fesur mewn sawl uned wahanol, yn dibynnu ar y cyd-destun: 

 

  • Bar: Uned gyffredin mewn systemau plymio, lle mae 1 bar = 100 kPa. Mae’r mwyafrif o falfiau a boeleri domestig wedi’u graddio i weithio o fewn ystod o 1–3 bar. Mae nifer o systemau plymio a gwresogi hefyd yn gweithredu o fewn ystod o 1-3 bar.  
  • Milibar (mbar): Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer mesur gwasgedd isel mewn rhai offer rheoli aer. 1 bar = 1000 mbar.  
  • kPa (cilopascal): Uned SI o fesur gwasgedd. Mae’n cael ei ddefnyddio’n eang mewn gweithgynhyrchu offer plymio.  
  • Psi (pounds per square inch): Uned imperial sy’n cael ei ddefnyddio yn aml yn y DU mewn cyd-destunau penodol, e.e. mewn offer profion gwasgedd. 1 bar ≈ 14.5 psi.
  • Metre head: Mae hwn yn disgrifio uchder colofn o ddŵr sy’n cynhyrchu gwasgedd penodol. Mae 1 ‘metre head’ = 0.098 bar. Mae’n cael ei ddefnyddio yn aml wrth ddisgrifio capasiti pwmp mewn system ddŵr.