Gwasgedd 

Gwasgedd yw faint o rym sy’n cael ei roi ar arwynebedd penodol. Mae gwasgedd yn cael ei fesur mewn pascalau (Pa), ac un pascal yw 1 newton fesul metr sgwâr (N/m²).

Felly: 

Gwasgedd = Grym ÷ Arwynebedd 

Mewn systemau plymio, defnyddir unedau eraill hefyd fel bar, kPa a ‘metre head’. Er enghraifft, tua 10 metr o uchder o ddŵr (metre head) sy’n cyfateb i 1 bar o wasgedd. 

Gwasgedd statig 

Mae gwasgedd statig yn cyfeirio at y gwasgedd pan nad yw’r dŵr yn symud, fel pan fo tap ar gau.

Gwasgedd dynamig

Mae gwasgedd dynamig yn cyfeirio at y gwasgedd wrth i ddŵr symud drwy’r system, a gall hwn amrywio yn dibynnu ar faint o ddŵr sy’n llifo a pha mor gyflym.