Gwasgedd 
Gwasgedd yw’r grym sydd wedi’i ddosbarthu dros arwynebedd.

Mae’n cael ei gyfrifo fel: 

Gwasgedd = Grym ÷ Arwynebedd 

Gan fod grym yn cael ei fesur mewn newtonau ac arwynebedd yn cael ei fesur mewn metrau sgwâr (m²), mae uned SI ar gyfer gwasgedd yn newton fesul metr sgwâr (N/m²), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel pascal (Pa). 
1 Pa = 1 N/m² 

Yn ymarferol mewn plymio, defnyddir unedau mwy fel kilopascal (kPa) neu bar, lle mae: 
1 bar = 100,000 Pa = 100 kPa 

Gwasgedd atmosfferig yw’r gwasgedd naturiol sydd yn yr aer o’n cwmpas ar lefel y môr, a’i werth safonol yw tua 101,325 Pa (tua 1 atm neu 1.013 bar). Mae deall hyn yn hanfodol wrth ddylunio systemau dŵr a sut maent yn ymateb i’r amgylchedd.