Mesur grym 

Mae grym yn cael ei fesur mewn newtonau (N).

Un newton yw’r grym sydd ei angen i gyflymu màs o 1 kg ar gyfradd o 1 metr yr eiliad bob eiliad (1 m/s²). Ar y Ddaear, y cyflymiad oherwydd disgyrchiant yw tua 9.81 m/s². Felly, i gyfrifo grym gwrthrych, gallwn ddefnyddio’r fformiwla: 

Grym (N) = Màs (kg) × Disgyrchiant (9.81 m/s²) 

Er enghraifft, os oes 100 litr o ddŵr mewn seston (ac 1 litr o ddŵr yn pwyso 1 kg), bydd y màs yn 100 kg. Felly: 

100 kg × 9.81 = 981 N