Maen Prawf 4.5
Y berthynas rhwng cyflymder, gwasgedd a chyfradd llif mewn systemau
Mewn systemau plymio, mae dŵr yn symud drwy bibellau oherwydd gwasgedd. Mae gwasgedd yn darparu’r grym sydd ei angen i symud y dŵr, ac mae hyn yn dylanwadu ar ba mor gyflym y mae’r dŵr yn llifo. Pan fydd gwasgedd yn cynyddu, gall hyn arwain at gynnydd yn y cyflymder mae’r dŵr yn symud drwyddo, a hefyd cynnydd yn y gyfaint o ddŵr sy’n pasio mewn cyfnod penodol, sef y gyfradd llif.
Ond mae’r berthynas rhwng y dair elfen hyn yn ddibynnol ar sawl ffactor. Er enghraifft, os bydd pibell yn culhau, gall y dŵr symud yn gyflymach drwy’r rhan gulach, ond gall hyn ar yr un pryd achosi i’r gwasgedd leihau. Mewn achosion fel hyn, mae cyflymder y dŵr yn cynyddu, ond nid yw’r llif cyffredinol o reidrwydd yn well. Mae’r ffenomen hon yn digwydd mewn sawl sefyllfa yn ymarferol ac hefyd yn cael ei alw yn effaith ‘Bernoulli’.