Profi systemau gwresogi 2

Dylid monitro’r gwasgedd drwy gydol y prawf, gan sicrhau nad oes gostyngiad sylweddol ac nad oes unrhyw ollyngiadau gweledol yn ymddangos ar unrhyw ran o’r gosodiad. Os canfyddir unrhyw ollyngiadau, rhaid eu cywiro’n llwyr cyn ailadrodd y prawf. Pan fo’r system wedi pasio’r prawf heb unrhyw fethiant, dylid cwblhau’r holl ddogfennau perthnasol i ddangos cydymffurfiaeth â safonau’r diwydiant, gan gynnwys unrhyw hysbysu ffurfiol os yw’n ofynnol gan y contract neu’r rheoliadau adeiladu. 

Mae’r dull hwn yn berthnasol i systemau sy’n cynnwys pibellau metel fel copr, yn ogystal â phibellau plastig sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer defnydd mewn systemau gwresogi. Wrth ddefnyddio deunyddiau plastig, dylid sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y tymheredd a’r pwysedd gweithredu, ac yn cael eu profi yn unol â chanllawiau’r gwneuthurwr a’r safonau fel BS EN 12828 a BS EN 14336. 

Mae dilyn y gweithdrefnau hyn yn sicrhau nad yw’r system yn agored i fethiannau, ac yn rhoi sicrwydd i’r perchennog neu’r defnyddiwr terfynol bod y gosodiad yn un dibynadwy ac yn cydymffurfio â gofynion y diwydiant. 

(Mae Prawf A a B fel sydd wedi eu nodi yn Uned 207 ac Uned 208, hefyd yn berthnasol yma).