Maen Prawf 5.2

Egwyddorion mecaneg sylfaenol

 

Mae mecaneg sylfaenol yn ymwneud â’r ffordd y mae grymoedd yn effeithio ar wrthrychau, hynny yw eu symudiad, eu cydbwysedd a’u hymatebion. Un o’r cysyniadau pwysicaf yn y maes yw ‘theori momentau’ (moments theory). Mae moment yn rym cylchdro sef grym sy’n gweithredu ar bellter o ‘fulcrum’ (pwynt troi). Po fwyaf y pellter o’r ‘fulcrum’, neu po fwyaf y grym, y mwyaf yw’r moment. Mae hyn yn berthnasol, er enghraifft, wrth ddefnyddio bar troi i agor falf dynn. 

Yn y cyd-destun hwn, mae symudiadau ac ymatebion hefyd yn ganolog: pan fydd grym yn gweithredu ar wrthrych, gall achosi iddo symud, newid cyfeiriad neu gyflymu. Mae’r craidd disgyrchiant yn bwynt dychmygol yng nghanol gwrthrych lle mae ei bwysau’n cael ei ganolbwyntio. Os yw’r pwynt hwn y tu allan i’w sail, gall y gwrthrych golli cydbwysedd a chwympo.