Trydedd Ddeddf Symudiad Newton

Yn ogystal, mae’n bwysig deall Trydedd Ddeddf Symudiad Newton, sef: 

“I bob gweithred, mae yna adwaeth hafal a chyferbyniol.” 

Mewn geiriau syml, pan fydd gwrthrych A yn gweithredu grym ar wrthrych B, mae gwrthrych B yn gweithredu grym cyfartal yn ôl ar wrthrych A ond mewn cyfeiriad dirgroes (opposite). Gellir gweld hyn mewn enghreifftiau bob dydd, er enghraifft, pan fydd dŵr yn llifo allan o chwistrellydd dŵr (e.e. jet wash), mae’r grym yn gwthio’r dŵr allan ac ar yr un pryd yn gwthio’r chwistrell yn ôl. Mae’r un egwyddor yn wir pan fydd person yn gwthio car wedi torri lawr. Mae’r car yn gwrthwthio ar y person wrth iddynt wthio, ond os yw’r grym gweithredu’n fwy na’r ffrithiant, bydd y car yn symud.