Maen Prawf 2.4

Dulliau o atal cyrydiad

 

Mae cyrydiad yn achosi i fetelau ddirywio dros amser drwy adweithiau cemegol â’r amgylchedd. Mae’n bwysig ei atal er mwyn diogelu cydrannau plymio a gwresogi, ymestyn eu hoes, a chynnal diogelwch. 

Un dull sylfaenol yw defnyddio deunyddiau sy’n gwrthsefyll cyrydiad yn naturiol, fel copr neu ddur gwrthstaen. Hefyd, mae modd gorchuddio’r metel â haen amddiffynnol fel paent, plastig neu sinc (e.e. dur galfanedig). 

Pan mae metelau annhebyg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd mewn system (e.e. copr a dur), mae cyrydiad electrolytig yn gallu cael ei atal drwy ddefnyddio rhwystr insiwleiddio (fel cysylltiadau plastig) neu osod anodau aberthol (sacrificial anode) sef metel arall sy’n dirywio yn ei le (e.e. sinc). 

Mae trin dŵr gyda chemegion atal cyrydiad yn ffordd arall o warchod tu mewn pibellau mewn systemau caeedig.

Yn olaf, mae cynnal a chadw rheolaidd yn helpu i adnabod problemau’n gynnar, cyn iddynt waethygu.