Capilaredd  

Gall dŵr symud trwy fylchau bach neu diwbiau cul iawn oherwydd grymoedd capilari. Mae hyn yn berthnasol wrth ddeall sut mae dŵr yn treiddio drwy ddeunyddiau neu’n symud mewn rhai cydrannau fel falfiau neu bibellau tenau. 

Asidedd ac alcalinedd (gwerth pH)  

Mae pH dŵr yn cael ei fesur ar raddfa o 0 i 14. Mae pH o 7 yn niwtral, llai na 7 yn asidig ac yn uwch na 7 yn alcalïaidd. Mae dŵr gyda gwerth pH eithafol (rhy asidig neu rhy alcalïaidd) yn gallu achosi cyrydiad mewn pibellau metel neu broblemau gyda falfiau a ffitiadau.