Cyfaint a gwasgedd 

Wrth gynhesu dŵr, mae ei gyfaint yn cynyddu, ac os nad yw’r system wedi’i chynllunio’n iawn, gall hyn arwain at gynnydd mewn gwasgedd. Mae defnyddio falfiau diogelwch a chynwysyddion ehangu mewn systemau gwresogi’n helpu i reoli hyn. 

Dwysedd ar wahanol dymereddau  

Mae dŵr yn fwy trwchus (dwys) ar tua 4°C. Wrth gynhesu neu oeri, mae’r dwysedd yn lleihau. Mae hyn yn bwysig wrth ddylunio systemau sy’n dibynnu ar gylchrediad naturiol, fel rhai mathau o wres canolog. 

Stêm a stêm wedi’i gynhesu i’r eithaf 

Pan fydd dŵr yn cael ei gynhesu i’r pwynt lle mae’n anweddu’n llwyr, ceir stêm. Gall stêm gael ei gynhesu ymhellach i greu ‘stêm wedi’i gynhesu i’r eithaf’ sydd â mwy o egni. Mae stêm yn cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn systemau gwresogi diwydiannol.