Cyrydiad electrolytig
Un ffurf fwy cymhleth o ddirywiad metel yw cyrydiad electrolytig, sef adwaith cemegol sy’n digwydd pan fo dau fetel gwahanol mewn cysylltiad ag electrolyt fel dŵr sy’n cynnwys halwynau neu fwynau. Mae’r gyfres electromotif yn rhestru metelau yn ôl eu tuedd i ocsideiddio. Pan fo dau fetel sy’n bell o’i gilydd yn y gyfres gael eu defnyddio gyda’i gilydd, bydd un yn dod yn anod ac felly’n cyrydu’n gyflymach. Enghraifft nodweddiadol fyddai pibell gopr â chysylltiad magnesiwm lle bydd y magnesiwm yn dirywio’n gyflymach.
Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r broblem o fetelau annhebyg mewn electrolyt (dŵr). Mewn systemau dŵr domestig, gall defnyddio cymysgedd o fetelau mewn pibellau, falfiau a ffitiadau greu cylchred electrocemegol anfwriadol, gan sbarduno cyrydiad lleol mewn rhannau penodol o’r system.