Maen Prawf 2.5

Defnyddio hylifau a nwyon  

 

Hylifau 

Dŵr 
Dŵr yw’r hylif mwyaf cyffredin ym myd plymio. Yn gemegol, mae’n cynnwys dau atom hydrogen ac un atom ocsigen (H₂O). Defnyddir dŵr mewn systemau dŵr oer, dŵr poeth domestig, a systemau gwresogi canolog, gan gynnwys rheiddiaduron a boeleri. 

Oeryddion (Refrigerants) 
Defnyddir oeryddion i drosglwyddo gwres mewn systemau, fel systemau solar thermol neu beiriannau mecanyddol. Mae’n hanfodol bod y sylwedd yn sefydlog dan wres uchel a bod ganddo gapasiti gwres uchel. Maent yn cael ei weld yn aml mewn gwaith penodol ‘HVAC’ sy’n derm i ddisgrifio gwaith peiriannydd  ‘Heating, Ventilation and Air Conditioning’.